2015 Rhif 1327 (Cy. 122) (C. 74)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adran 59(2) a 59(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (“y Ddeddf”). Hwn yw'r gorchymyn cychwyn cyntaf i gael ei wneud o dan y Ddeddf.

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol y Ddeddf ond dim ond at ddiben llunio rheoliadau. Bydd y darpariaethau hynny'n dod i rym ar y diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn.

Mae erthygl 3 yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o’r Ddeddf at ddibenion penodol ar 25 Mai 2015. Mae'r darpariaethau hyn yn Rhan 2 (cynlluniau ffioedd a mynediad), Rhan 4 (materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig) a Rhan 7 (darpariaeth atodol ynghylch swyddogaethau CCAUC) o'r Ddeddf. Mae'r darpariaethau yn Rhan 4 o'r Ddeddf yn cynnwys swyddogaeth CCAUC o ran llunio cod sy’n ymwneud â threfnu a rheoli materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig (adran 27(1)). Caiff darpariaethau yn y cod fod ar ffurf gofynion neu ganllawiau (adran 27 (3)). Mae'r darpariaethau yn Rhan 7 o'r Ddeddf yn cynnwys adrannau 47 i 49. Mae adran 47(1)(a) yn darparu na all unrhyw ofyniad y caiff CCAUC ei osod ar gyrff llywodraethu sefydliadau o dan y Ddeddf ei gwneud yn ofynnol i'r cyrff hynny weithredu'n groes i'w rhwymedigaethau fel ymddiriedolwyr elusennau. Mae adran 47(1)(b) yn darparu na all CCAUC ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu sefydliadau wneud unrhyw beth sy'n anghydnaws â'u dogfennau llywodraethu. Mae adran 48 yn gosod dyletswydd ar CCAUC i ystyried pwysigrwydd diogelu rhyddid academaidd wrth arfer ei swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf. O dan adran 49 o'r Ddeddf, rhaid i CCAUC, wrth arfer ei swyddogaethau yn rhinwedd y Ddeddf, ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru. Mae'r darpariaethau yn Rhan 7 o'r Ddeddf sydd hefyd yn dod i rym ar 25 Mai 2015 yn cynnwys swyddogaeth CCAUC o ran llunio datganiad mewn cysylltiad â'i swyddogaethau ymyrryd (adran 52(1)) a'i swyddogaeth yn adran 54(3) a 54(4) o ran rhoi gwybodaeth a chyngor ynghylch y fframwaith rheoleiddio a sefydlwyd gan y Ddeddf a rolau a chyfrifoldebau sefydliadau rheoleiddiedig, ymysg pethau eraill.

Mae erthygl 4 yn dwyn i rym yn llawn Ran 2 o'r Atodlen i'r Ddeddf (darpariaeth drosiannol) ar 1 Awst 2015. Fel y cyfryw, mae'r cyfnod trosiannol a ddisgrifir yn Rhan 2 o'r Atodlen yn dechrau ar y dyddiad hwnnw ac yn dod i ben ar 31 Awst 2017 (paragraff 29(2) o'r Atodlen). Bydd cynllun sydd wedi ei gymeradwyo gan CCAUC o dan adran 34 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (“Deddf 2004”) cyn 1 Awst 2015 ac sy'n dod o fewn paragraff 27 o'r Atodlen i'r Ddeddf yn cael ei drin, yn ystod y cyfnod trosiannol, fel cynllun ffioedd a mynediad sydd wedi ei gymeradwyo o dan adran 7 o'r Ddeddf. Caiff y cynlluniau hynny eu trin fel pe baent yn gynlluniau sydd wedi eu cymeradwyo o dan adran 7 o’r Ddeddf at ddibenion cyfyngedig, ac mae’r darpariaethau a restrir ym mharagraff 28 o Ran 2 o’r Atodlen yn cyfeirio at hyn. Mae'r darpariaethau hynny yn ymwneud â chydymffurfio â’r terfyn ffioedd cymwys (adrannau 10 i 12, 14, 15(1)(a) ac 16 o'r Ddeddf) ac asesu ansawdd yr addysg (adrannau 17 i 23 o'r Ddeddf). Bydd y cynlluniau hynny hefyd yn cael eu trin fel cynlluniau a gymeradwyir o dan adran 7 o'r Ddeddf at ddibenion adroddiadau arbennig CCAUC (adran 51(1)(e)) ac at ddibenion ymgynghori ac arfer da, gwybodaeth a chyngor (adrannau 24(2)(a), 28(2), 52(3) a 54(1) o'r Ddeddf). Daw Rhan 2 o'r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2015 oherwydd y gallai sefydliadau yng Nghymru ei gwneud yn ofynnol i rai myfyrwyr sy'n mynychu neu'n dilyn cyrsiau addysg uwch yn y sefydliadau hynny ddechrau mynychu neu ddilyn eu cyrsiau yn ystod mis Awst a pharhau ar y cyrsiau hynny yn ystod yr hydref canlynol. (At ddibenion talu cymorth statudol i fyfyrwyr, mae cyrsiau o'r fath yn cael eu trin fel cyrsiau sy'n dechrau ar 1 Medi yn y flwyddyn galendr berthnasol).

Dim ond darpariaethau penodol o'r fframwaith rheoleiddio a sefydlwyd gan y Ddeddf fydd yn cael effaith yn ystod y cyfnod trosiannol. Daw erthygl 5 â'r darpariaethau hynny i rym ar 1 Medi 2015. Deuir â darpariaethau sy’n ymwneud â chydymffurfedd sefydliadau â’r terfyn ffioedd cymwys i rym yn llawn (adrannau 10 i 12, 14 a 15(1)(a) ac 16), yn ogystal â darpariaethau ynghylch asesu ansawdd yr addysg (adrannau 17 i 25). Daw erthygl 5 hefyd â darpariaethau eraill sy'n ymwneud â'r weithdrefn hysbysiad rhybuddio ac adolygu i rym (adrannau 41(1)(b), 41(1)(d), 41(2) ac adrannau 42 i 44). O 1 Medi 2015, bydd y weithdrefn hysbysiad rhybuddio ac adolygu yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan CCAUC o dan adrannau 11 neu 19 o'r Ddeddf. Yn ogystal, daw erthygl 5 â darpariaethau sy’n ymwneud â llunio adroddiadau arbennig gan CCAUC i rym ar 1 Medi 2015 (adrannau 51(1)(a), 51(1)(e) a 51(2)) a chyhoeddi datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd CCAUC o dan adrannau 11, 19 ac 20(1) ac 20(2). Gan fod erthygl 5 yn dod â darpariaethau penodol yn Rhannau 2 a 3 o'r Ddeddf i rym, daw hefyd â nifer o fân ddiwygiadau cysylltiedig a diwygiadau canlyniadol cysylltiedig a nodir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Ddeddf i rym. Mae’r rhain yn cynnwys diwygiadau i adran 70 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 sy'n cyfyngu ar gymhwysiad yr adran honno i Gyngor Addysg Uwch Lloegr. Deuir â diwygiadau i Ran 3 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 i rym hefyd sy'n cyfyngu ar gymhwysiad y Rhan honno i gynlluniau a gymeradwyir yn Lloegr ac sy'n dileu swyddogaethau CCAUC fel awdurdod perthnasol o dan y Ddeddf honno.

Daw erthygl 6 ag adrannau 2, 4, 5, 6 a 7 o'r Ddeddf i rym yn llawn ar 1 Ionawr 2016. Mae'r darpariaethau hyn yn dod o fewn Rhan 2 o'r Ddeddf (cynlluniau ffioedd a mynediad) ac yn ymwneud â cheisiadau y caiff sefydliadau eu gwneud i CCAUC am gymeradwyaeth i gynlluniau ffioedd a mynediad arfaethedig. Daw erthygl 6 ag adran 41(1)(a) i rym ar 1 Ionawr 2016. O'r dyddiad hwnnw, bydd y weithdrefn hysbysiad rhybuddio ac adolygiad yn adrannau 42 i 44 o'r Ddeddf yn gymwys i unrhyw hysbysiadau a ddyroddir gan CCAUC o dan adran 7(1)(b) o'r Ddeddf.

Mae erthyglau 7 ac 8 yn gwneud darpariaeth arbed mewn perthynas â darpariaethau penodol o Ddeddf 2004 a rheoliadau penodol a wnaed o dan y Ddeddf honno. Mae erthygl 7 yn sicrhau bod sefydliad, o 1 Medi 2015, yn dal i allu gwneud cais i CCAUC i amrywio cynllun Deddf 2004 (a ddiffinnir ym mharagraff 29(3) o'r Atodlen i'r Ddeddf) sydd wedi’i drin fel pe bai wedi ei gymeradwyo o dan adran 7 o'r Ddeddf yn ystod y cyfnod trosiannol, yn unol â Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”). Mae erthygl 8 yn sicrhau bod sefydliad sydd wedi gwneud cais i CCAUC am gymeradwyaeth i gynllun arfaethedig o dan adran 34 o Ddeddf 2004 cyn 1 Medi 2015 yn dal i allu gwneud cais am adolygiad mewn perthynas â'r cais hwnnw ar ôl y dyddiad hwnnw yn unol â Rheoliadau 2011.


2015 Rhif 1327 (Cy. 122) (C. 74)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2015

Gwnaed                                    19 Mai 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 59(2) a 59(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

 

Enwi a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2015.

(2) Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Addysg Uwch 2004([2]);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015;

ystyr “Rheoliadau Cynlluniau a Gymeradwywyd” (“the Approved Plans Regulations”) yw Rheoliadau Ffioedd Myfyrwyr (Cynlluniau wedi eu Cymeradwyo) (Cymru) 2011([3]); ac

ystyr “y Rheoliadau Dynodi” (“the Designation Regulations”) yw Rheoliadau Deddf Addysg Uwch 2004 (Awdurdod Perthnasol) (Dynodi) (Cymru) 2011([4]).

Darpariaethau sy'n dod i rym ar y diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y Gorchymyn

2. Daw'r darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf i rym ar y diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn, at ddiben gwneud rheoliadau yn unig—

(a)     adran 2(4) (ceisiadau am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad);

(b)     adran 3(4) (dynodi darparwyr addysg uwch eraill);

(c)     adran 4(3) a 4(4) (cyfnod y mae cynllun ffioedd a mynediad i gael effaith mewn cysylltiad ag ef);

(d)      adran 5(2)(b), 5(3) a 5(5) i 5(9) (cyrsiau cymhwysol, yr uchafswm ffioedd, personau cymhwysol a'r ffioedd sy'n daladwy i berson sy'n darparu cwrs ar ran sefydliad);

(e)     adran 6(1) a 6(3) i 6(6) (cynlluniau ffioedd a mynediad a hybu cyfle cyfartal a hybu addysg uwch);

(f)       adran 7(3) (penderfyniad ynghylch cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad);

(g)     adran 8 (cyhoeddi cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd);

(h)     adran 9 (amrywio cynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd);

(i)      adran 11(5) (cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu);

(j)      adran 17(4)(a) (trin person fel person sy'n gyfrifol am ddarparu cwrs);

(k)     adran 37(7) (hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad newydd);

(l)      adran 38(2) (dyletswydd i dynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad yn ôl);

(m)   adran 39(4) (pŵer i dynnu cymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad yn ôl);

(n)     adran 40(2) (hysbysiadau a roddir o dan Ran 5 o'r Ddeddf);

(o)     adran 42(2)(d) (sylwadau mewn cysylltiad â hysbysiadau rhybuddio);

(p)     adran 43(c) (gwybodaeth sydd i'w rhoi gyda hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol);

(q)     adran 44(3) a 44(4) (adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol);

(r)      adran 52(4) (datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd);

(s)      adran 58(2) (darpariaeth drosiannol) i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 28(g) a 30 o'r Atodlen; a

(t)      yn yr Atodlen—

                           (i)    paragraff 28(g); a

                         (ii)    paragraff 30.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 25 Mai 2015

3. Daw'r darpariaethau a ganlyn o'r Ddeddf i rym ar 25 Mai 2015 i'r graddau a bennir—

(a)     adran 6(7) (gofynion cyffredinol) at bob diben;

(b)     adran 7(5) (cyfeiriadau at gynllun a gymeradwywyd ac at sefydliad rheoleiddiedig yn Neddf 2015);

(c)     adran 27(1) (cod rheolaeth ariannol) i'r graddau y mae'n ymwneud â llunio cod;

(d)     adran 27(2), 27(3), 27(7) a 27(8) at bob diben;

(e)     adrannau 47 a 48 (arfer swyddogaethau gan CCAUC) at bob diben;

(f)      adran 49 (dyletswydd i ystyried canllawiau  Gweinidogion Cymru) at bob diben;

(g)     adran 52(1) (datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd) i'r graddau y mae'n ymwneud â llunio datganiad;

(h)     adran 52(5) at bob diben; ac

(i)      adran 54(3) a 54(4) (gwybodaeth a chyngor) at bob diben.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Awst 2015

4. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Awst 2015 i'r graddau a bennir—

(a)     adran 58(2) (darpariaethau trosiannol) i’r graddau y mae’n ymwneud â pharagraffau 27, 28(a) i 28(f) a pharagraff 29 o'r Atodlen; a

(b)     yn yr Atodlen (darpariaeth drosiannol)—

                           (i)    paragraff 27 at bob diben;

                         (ii)    paragraff 28(a) i 28(f) at bob diben; a

                       (iii)    paragraff 29 at bob diben.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Medi 2015

5. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2015 i'r graddau a bennir—

(a)     adran 3 (dynodi darparwyr addysg uwch eraill) at bob diben sy'n weddill;

(b)     adran 10 (terfynau ar ffioedd myfyrwyr) at bob diben;

(c)     adran 11 (cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu) at bob diben sy'n weddill;

 (d) adran 12 (darpariaeth atodol ynghylch      cyfarwyddydau cydymffurfio ac ad-dalu) at          bob diben;

(e)     adran 14 (dilysrwydd contractau) at bob diben;

(f)      adrannau 15(1)(a) (dyletswydd i fonitro cydymffurfedd) ac 16 (dyletswydd i gydweithredu) at bob diben;

(g)     adran 17 (asesu ansawdd yr addysg) at bob diben sy'n weddill;

(h)     adrannau 18 i 25 (ansawdd annigonol, cydweithredu o ran asesu ansawdd, pwerau atodol at y diben o asesu ansawdd a phwyllgor i gynghori CCAUC ynghylch arfer swyddogaethau asesu ansawdd) at bob diben;

(i)      adrannau 27(9), 28 a 29 (llunio a gweithdrefn ar gyfer cymeradwyo cod rheolaeth ariannol gan Weinidogion Cymru) at bob diben;

(j)      adran 41(1)(b), 41(1)(d) a 41(2) (y weithdrefn hysbysiad rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol) at bob diben;

(k)     adrannau 42 i 44 (y weithdrefn hysbysiad rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol) at bob diben sy'n weddill;

(l)      adrannau 45 a 46 (darpariaethau cyffredinol ynghylch cyfarwyddydau) at bob diben;

(m)   adran 51(1)(a), 51(1)(e) a 51(2) (adroddiadau arbennig) at bob diben;

(n)     adran 52(1) (datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd) i'r graddau y mae'n ymwneud â chyhoeddi datganiad mewn cysylltiad ag adran 52(5)(a), 52(5)(c) a 52(5)(d);

(o)     adran 52(2) a 52(3) at bob diben;

(p)     adran 53 (gwybodaeth a chyngor sydd i'w rhoi gan CCAUC i Weinidogion Cymru) at bob diben;

(q)     adran 54(1) (gwybodaeth a chyngor arall) at bob diben;

(r)      adran 58(1) (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau'r Atodlen y cyfeirir atynt ym mharagraff (s);

(s)      yn yr Atodlen (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—

                           (i)    paragraff 1 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 2;

                         (ii)    paragraff 2 at bob diben;

                       (iii)    paragraffau 7 i 21 at bob diben;

                        (iv)    paragraff 22 at bob diben;

                          (v)    paragraff 23 at bob diben;

                        (vi)    paragraffau 24 i 26 at bob diben;

(t)      adran 58(2) (darpariaeth drosiannol) i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 31 o'r Atodlen; ac

(u)     paragraff 31 o'r Atodlen at bob diben.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 1 Ionawr 2016

6. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ionawr 2016 i'r graddau a bennir—

(a)     adran 2 (cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad) at bob diben sy'n weddill;

(b)     adran 4 (y cyfnod y mae cynllun ffioedd a mynediad i gael effaith mewn cysylltiad ag ef) at bob diben sy'n weddill;

(c)     adran 5 (terfyn ffioedd) at bob diben sy'n weddill;

(d)     adran 6 (hybu cyfle cyfartal ac addysg uwch) at bob diben sy'n weddill;

(e)     adran 7 (cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad) at bob diben sy'n weddill; ac

(f)      adran 41(1)(a) (y weithdrefn hysbysiad rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol) at bob diben.

Darpariaeth arbed mewn perthynas â dwyn i rym baragraffau 11, 12, 14 i 16 a 19 o'r Atodlen i'r Ddeddf

7. Er gwaethaf dwyn i rym baragraffau 11, 12, 14, 16 a 19 o'r Atodlen i'r Ddeddf ar 1 Medi 2015—

(a)    mae rheoliad 9 o’r Rheoliadau Cynlluniau a Gymeradwywyd yn dal yn gymwys i gynllun Deddf 2004 sy'n cael ei drin fel cynllun ffioedd a mynediad sydd wedi ei gymeradwyo o dan adran 7 o'r Ddeddf yn ystod y cyfnod trosiannol;

(b)     mae'r darpariaethau a ganlyn yn dal yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwnnw—

                           (i)    adran 32(4) o Ddeddf 2004; a

                         (ii)    rheoliad 5 i 7 ac 11 i 18 o’r Rheoliadau Cynlluniau a Gymeradwywyd; ac

(c)     mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau Dynodi yn dal yn gymwys i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) a (b).

8. Er gwaethaf dwyn i rym baragraffau 11, 12, 14 a 15 o'r Atodlen i'r Ddeddf ar 1 Medi 2015—

(a)     mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau Cynlluniau a Gymeradwywyd yn dal yn gymwys i gais am gymeradwyaeth i gynllun arfaethedig a gafodd CCAUC o dan adran 34 o Ddeddf 2004 cyn 1 Medi 2015;

(b)     mae'r darpariaethau a ganlyn yn dal yn gymwys mewn perthynas â'r rheoliad hwnnw at ddibenion cais o'r fath—

                           (i)    adran 32(4) o Ddeddf 2004;

                         (ii)    adran 35(1) a 35(2)(b) o Ddeddf 2004; a

                       (iii)    rheoliadau 6 i 8 ac 11 i 18 o’r Rheoliadau Cynlluniau a Gymeradwywyd; ac

(c)     mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau Dynodi yn dal yn gymwys i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) a (b).

9. Mae erthyglau 7 ac 8 heb leihau effaith gweithrediad adrannau 16 ac 17 o Ddeddf Dehongli 1978([5]) fel y’u darllenir gydag adran 23 o'r Ddeddf honno.

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

19 Mai 2015



([1])           2015 dccc 1.

([2])           2004 p. 8.

([3])           O.S. 2011/884 (Cy. 128).

([4])           O.S. 2011/658 (Cy. 96).

([5])           1978 p. 30.